SL(5)370 - Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol a diffygion eraill sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 (O.S. 2016/106 Cy.52). Mae'r Rheoliadau hynny'n rheoli'r cynhyrchiad gyda golwg ar farchnata, ardystio a marchnata tatws hadyd yng Nghymru, heblaw'r rhai y bwriedir eu hallforio y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
Gweithdrefn
Cadarnhaol
Gwaith craffu technegol
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Mae Rheoliad 2(12) yn cyfnewid cyfeiriadau at y DU am gyfeiriadau at yr Undeb [Ewropeaidd] yn Atodlen 1 i Reoliadau 2016. Mae testun Cymraeg 2(12) yn adlewyrchu'r Saesneg yn gywir. Fodd bynnag, ymddengys bod camgymeriad yn nhestun Cymraeg paragraff 8 o Atodlen 1 i Reoliadau 2016, fel nad yw'r geiriau 'yr Undeb' yn ymddangos mewn gwirionedd. O ganlyniad, ni ellir ei ddisodli gan 'y DU' yn unol â rheoliad 2(12). Felly, dylai 'Y DU' fod yn fewnosodiad ym mharagraff 8, ac nid yn gyfnewidiad. [Rheol Sefydlog 21.2(vi) - drafftio diffygiol]
2. Mae Rheoliad 2(15) yn nodi bod Atodlen 4 yn cael ei diwygio yn unol â pharagraffau 15 i 17. Byddai’r croesgyfeiriad cywir at baragraffau (16) i (18). [Rheol Sefydlog 21.2(vi) - drafftio diffygiol]
3. Mae'r diwygiadau a wneir gan baragraffau (16) i (18) o reoliad 2 yn ychwanegu cyfeiriadau at raddau'r DU o datws hadyd at gyfeiriadau presennol at raddau'r UE. Mae'r newidiadau yn y testun Cymraeg wedi'u mynegi fel cyfnewidiadau o raddau'r DU a'r UE am raddau'r UE. Fodd bynnag, mae'r ffordd y mae wedi'i wneud yn rheoliad 2(17)(b)(iii) wedi arwain at golli gradd S yr Undeb. [Rheol Sefydlog 21.2(vi) - drafftio diffygiol]
Craffu ar rinweddau
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â’r offeryn hwn - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad
Fel yr eglurir ym mharagraff 4.5 o'r Memorandwm Esboniadol, mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy'n caniatáu i datws hadyd o'r UE a'r Swistir barhau i gael eu marchnata ac ati am ddeuddeng mis ar ôl i'r diwygiadau ddod i rym ar y diwrnod ymadael. Caiff y darpariaethau trosiannol hynny eu dileu gan reoliad 3 ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
Ymateb y Llywodraeth
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi pwyntiau 1 a 3 a wneir gan y Pwyllgor. Derbynnir bod camgymeriad yn nhestun Cymraeg paragraff 8 o Atodlen 1 i Reoliadau 2016, a hefyd bod camgymeriad yn rheoliad 2(17)(b)(iii) sydd wedi arwain at golli “gradd S yr Undeb” yn y testun Cymraeg. Gan fod angen i’r offeryn statudol hwn ddod i rym ar y diwrnod ymadael, ac mai prin yw’r amser sydd ar gael, bwriedir cyflwyno OS arall cyn gynted ag y bo’n ymarferol i ddiwygio’r testun Cymraeg er mwyn ymdrin â’r materion hyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi pwynt 2 a wneir gan y Pwyllgor. Derbynnir bod y croesgyfeiriadau yn anghywir yn rheoliad 2(15). Caiff y cyfeiriadau hyn eu diweddaru drwy slip cywiro ar ôl cyhoeddi’r offeryn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
11 Mawrth 2019